The Harlech Medieval Society The Harlech Medieval Society

Arrow Histories - in Welsh

Back

Welsh Version of Arrow Histories.
Saeth Rhufeinig: Y cynllun gynharaf o’r oedoedd cannol, mae’r pen yn debyg iawn i pwynt gwaywffon Rhufeinig.
Penllydan Fach: Yn bennaf, defnyddir y saeth i hela, ac mae’n debyg saethodd milwyr y saeth o bwa llyfn Sacsonaidd. Mae’n posibilrwydd fod y math yma o saeth wedi cael ei defnyddio ar Cae Senlac (Hastings 1066). Roedd yna cynllun arall o’r saeth oedd yn defnyddio pigau bach, i fewnosod ei hun yn yr anifail/dyn marw.
Penllydan Gynnar: Defnyddiwyd i hela, ac i ladd milwyr gyda arfwisg ysgafn. Wrth i amser treulio, datblygodd y saethau.Penllydan Fawr: Defnyddiwyd yn bennaf i rhyfela, ac i geisio ladd ceffylau  marchogion. Mae’n debyg fod unrhyw saethwr yn ystod y brwydrau Crecy ac Agincourt wedi defnyddio y saethau yma neu tegyg.
Mi fysa unrhyw saethwr gwerth ei arian efo un saeth ar y bwa, a dau yn yr awyr, felly mi fysa’r hirfwa cannol oesol yn cymer y gwn peiriant modern. Saethau Cynffon Gwennol: Wrth edrych ar ei siap, mae’n debyg i wennol yn hedfan, defnyddiwyd yn bennaf i hela, mi fysa’r pigau hirgynffon yn symud o gwmpas yn yr anifail wrth i’r creadr ceisio rhuddhau y saeth, fel canlyniad yn achosi mwy o poen. Pan farwodd yr anifail, o blinder a phoen, mi fysa’r blingwyr a’r cigyddion yn mynd a’r anifail yn ôl i’r castell i gadw.
            Mewn sefyllfa brwydr, os fysai’r saeth yn cael ei saethu at milwr, wedi ei arfwisgo’n ysgafn, mi fysa’r piga hirgynffon yn ei wneud yn anodd i’r saeth cael ei dynnu allan. Roedd y rhesi (flights) wedi gludo ar y siafft gyda glud bylbiau glas y llwyn (bylbiau wenwynig), a wedi clymu ar, gyda eda lliain. Yr unig opsiwn arall heblaw am rhwygo y saeth allan os oedd rhywun yn torri y rhesi yn ofalus, a wedyn, os oedd yna meddyg barbwr yn agos, mi fysa efo teclyn yn debyg iawn i croesfwa. Mi fysai yn rhoi y bwa ar y saeth (a oedd dal yn corff y dyn) ac yn ei saethu trwadd. Fel canlyniad, farwodd nifer o afiechyd y saeth, sef gwenwyno y gwaed heddiw.
Saethau Botgin: Saeth rhwyllo arfwisg (armour piercing). Mae’r botgin nodwydd gyntaf, yn saeth hir gyda pwynt wedi siapio fel deiamwnt. Mae’r dau math arall o botgin wedi dyfeisio ar gyfer rhwyllo arfwisg plât.
Mae yna un stori, am pennaeth gastell Abergefenni, yn gofyn i’r bonedd Cymreig lleol dod i ymweld a’r castell, ac yna llofruddiodd y Cymry yna (mae yna hanesion fod bwganod y Cymry yna dal yn bodoli yn y castell hyd at heddiw). Yna, daeth byddin Cymraeg i ymosod ar y gastell, ond dywedodd pennaeth y gastell fod yn amhosib llwyddo yn yr ymosodiad, gan fod amddiffynfeudd y gastell yn rhy gryf. Y noson wedyn, ddisgwyliodd milwyr y gastell trwy nos, ond ddaeth neb. Yna pan roedd y milwyr yn cysgu, ddaeth y Cymru dros y muriau, fel cysgodion, a cychwyn lladd y milwyr oedd yn cysgu. Roedd y milwyr oedd wedi goroesi yr ymosodiad cyntaf wedi ffoi i’r prif twr. Roedd drysau enfawr pren yn rhwystro y Cymry rhag cyrraedd ei gelynion. Saethodd saethwyr Gwynedd saethau botgin at eu gelynion, a glaniodd rhai yn y drws enfawr. Mewnosoddodd y saethau yn y drysau, ac arhosodd yno nes y deunawfed ganrif, pan ddinistriodd Iarll Bute y castell.
Saethau Basgiad Neu Saethau Tân: Llenwodd y basgiad gyda gwellt, neu unrhyw math o deunydd fflamadwy, yna mi fysa’r saeth yn cael ei saethu i’r awyr ac yn gollwng ar tai pren, a toau gwellt. Mae’r saeth mewn siâp fforc, credai arbennigwyr fod y saeth yma yn cael ei defnyddio i hela ffowl, gan nad oedd y saeth yma yn llithro oddi ar plu seimllyd yr aderyn.     


Website maintained by AreArt Web Design. © Copyright 2005 - 2010 The Harlech Medieval Society. All rights reserved.