Brwydrodd Hywel ap Gruffydd ym myddin Edward y Tywysog Ddu, mab Edward III.
Mae rhai yn amau y stori traddodiadol fod Hywel wedi dal brenin Ffrainc yn y brwydr hwn. Mae’r stori’n dweud yn glir fod Hywel wedi hollti pen ceffyl y brenin, a’i gwahannu o’i gorff gyda un ymgyrch llwyddiannus a’i fwyall, ac yna dal y frenin fel carcharor. Yn wir, mi roedd yn ddigon medrus a’r fwyall fel arf i gwneud hyn, ac am ei ddewrder yn y frwydr hwn, derbyniodd urdd marchog.
Wedi iddo ddychwelyd o’r rhyfeloedd Ffrengig, derbyniodd Hywel ffafriaeth y frenin. A’r wahan i’r urdd marchog, derbyniodd trethi melinoedd y brenin ar lan yr afon Dyfrdwy. Yn ychwanegol derbyniodd caniatad gan y Tywysog Du i adeiladu melin yn Aberdowarch, sef hen felin Gest, wrth yml eglwys hen Ynyscynhaearn ym Mhentrefelin. Tua 1376 cafodd ei gwneud yn cwnstabl o Gastell Criccieth, ac yn tynnu at diwedd ei fywyd derbyniodd pensiwn gan Richard II.
Yn ôl traddodiad gorchmynodd y Tywysog Du fod rhaid i darn o gig cael ei rhoi ar fwyall Hywel yn ddyddiol. Cafodd y seremoni hon i perfformio yng Nghastell Criccieth tra roedd Hywel yn gwnstabl yno. Pennodwyd wyth milwr i gwneud y seremoni a cafodd eu dalu wyth ceiniog y diwrnod gan y frenin. Yn dilyn farwolaeth Syr Hywel cafodd y cig yma ei rhannu efo pobl tlawd Criccieth fel arwydd o parch am ei enaid, a pharhaodd y seremoni yma hyd at theyrnasiad Elizabeth I.
Yn ei gerdd, mae Iolo Goch yn ddisgrifio bywyd yng Ngahstell Criccieth yn eithaf cywir rhwng 1376 a 1380, tra roedd Hywel yn gwnsatbl yno. Yn amlwg roedd Syr Hywel yn hen ar yr adeg hyn gan fod Iolo Goch yn ddisgrifio ef fel “gwr fonheddig, a’i wallt llwyd” yn rhannu ei gwin yn hael o’i “ffiol aur”. Yn y castell mi roedd “sawl morwyn yn gwehyddu’r sidan pur-gwyn” a sawl “dyn balch yn chwarae drafftiau a gemmau bwrdd”. Ar dyrrau y castell mi roedd “baner hir, du, hardd gyda thair blodyn gwyn â dail arian arno”. Mi roedd arfbais Syr Hywel yn un du gyda tair “fleur-de-lis” arno. Mi roedd Castell Criccieth ar ei gora yn yr amser teyrnasodd Hywel fel cwnstabl yno, ddisgrfiai Iolo y castell fel “castell feistriol ac ysblennydd”. Ynghyd a hyn mae’r bardd yn sôn am wraig Syr Hywel, “wedi ei amgylchu a deuddeg morwyn llaw hardd”. Mi roedd y swydd o cwnstabl catell yn un pwysig a fonheddig iawn, oherwydd ei fod yn olygu fod maerdod y dref yn dod efo’r swydd. Yr hanes yw fod y Tywysog Du wedi cadw pump o filwyr yn y castell gan talu hwy pedair ceiniog y diwrnod o adnoddau ei hun.